SL(5)045 - Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 6) 2017
Cefndir a Phwrpas
Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (y Mesur) yn gwneud darpariaeth ar gyfer pennu safonau ymddygiad mewn perthynas â’r Gymraeg (safonau). Mae’r rhain yn disodli’r system o gynlluniau iaith Gymraeg y darperir ar eu cyfer yn Neddf yr Iaith Gymraeg 1993 [Saesneg yn unig].
Mae’r Rheoliadau hyn yn pennu safonau mewn perthynas ag ymddygiad 27 o gyrff a restrir yn rheoliad 3 o’r Rheoliadau (y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau fel “cyrff”). Mae’r cyrff hyn yn rhan o’r sector addysg.
Mae’r Rheoliadau hefyd yn awdurdodi’r Comisiynydd (yn ddarostyngedig i eithriadau penodol a nodir yn rheoliad 3) i roi hysbysiad cydymffurfio i’r cyrff hynny, mewn perthynas â safonau a bennir gan y Rheoliadau.
Fel arfer mae rhif yn enw un o gyfres o Offerynnau Statudol yn cyfeirio at y nifer a wnaed yn y flwyddyn benodol. Yn yr achos hwn mae’r rhif yn cyfeirio at y gyfres gyfan o Reoliadau Safonau, yn yr un modd ag y rhifir cyfres o orchmynion cychwyn.
Mae’r Rheoliadau hyn yn cymryd lle (gyda diwygiadau) Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 3) 2016(Rheoliadau Rhif 3) a gafodd eu gwrthod gan y Cynulliad cyn etholiadau’r Cynulliad y llynedd.
Gweithdrefn
Gadarnhaol
Craffu Technegol
Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Craffu ar rinweddau
Nodir un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn. (Rheol Sefydlog 21.3 (ii): mae’r offeryn o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad).
Derbyniodd y Pwyllgor sylwadau ar Reoliadau Rhif 3 gan gynrychiolwyr myfyrwyr. Nododd y Pwyllgor y sylwadau a’u tynnu i sylw’r Cynulliad. Gwrthodwyd Rheoliadau Rhif 3 gan y Cynulliad ar 15 Mawrth 2016.
Gwnaed diwygiadau i’r Rheoliadau drafft gan y Llywodraeth cyn eu hail-osod ar y ffurf bresennol. Bydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn craffu ar y drafft diwygiedig.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Ionawr 2017